P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cian Ciaran, ar ôl casglu cyfanswm o 10,692 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sy’n llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 mewn perthynas ac ansicrwydd, a sicrhau bod Asesiad llawn o’r Effaith Amgylcheddol yn cael ei gynnal cyn bod modd gwaredu unrhyw waddod pellach o orsaf pŵer niwclear Hinkley Point yn Cardiff Grounds.
Peidiwch â gadael i Lywodraeth Cymru dorri ei chyfraith ei
hun!
Gwybodaeth Ychwanegol
Rhaid i’r asesiad o’r effaith amgylcheddol ddarparu
Data sylfaenol manwl am ymddygiad a thynged deunydd sy’n cael ei waredu yn Cardiff Grounds;
Dadansoddiad radiolegol llawn, gan gynnwys allyrru gronynnau alffa;
Asesiad manwl a chyfoes o effeithiau radiolegol posibl ar boblogaeth de Cymru;
Rheoli llygryddon niwclear ar y tir yn hytrach na’u gwasgaru ar y môr;
Parchu cytundebau ynghylch gwaredu morol;
Gwarchod Afon Hafren.
Rydym hefyd yn galw ar y Senedd nad oes buddiannau niwclear yn dylanwadu ar yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
· De Caerdydd a Phenarth
· Canol De Cymru